Ewch YMA
am y stori mewn ffurf PDF(Geiriau yn unig) Mae angen Adobe
Acrobat. 
MYNEDIAD
AM DDIM – Y STORI WIR
“Mi
ganaf gân am y dyddiau cynnar”
1974-75
Y
flwyddyn – 1974. Y lle – Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. Dyna lle
cychwynodd Mynediad am Ddim eu taith cerddorol. Myfyrwyr yn Aber oedd yr
aelodau gwreiddiol – chwech ohonyn nhw : Emyr Wyn, Robin Evans a Mei
Jones oedd y tri chanwr ac Iwan Roberts (gitar a mandolin), Graham
Pritchard (ffidil, mandolin a phiano) a Dewi Jones (corn ffrengig) alias
Dewi “French Horn” - am resymau amlwg – oedd yr offerynwyr.

Roedd
hi’n gyfnod cyffrous ym myd canu ysgafn Cymraeg – roedd cenhedlaeth
newydd o grwpiau wedi codi yn nechrau’r 70au i ddilyn yr arloeswyr
cynnar fel Dafydd Iwan, Heather Jones, Meic Stevens a Huw Jones a
grwpiau fel y Tebot Piws a’r Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog – enwau
newydd fel Sidan, Hergest, Ac Eraill ac Edward H Dafis. Roedd dylanwad
canu gwerin Celtaidd, yn enwedig Iwerddon a Llydaw yn sgil llwyddiant
Alan Stivell, yn drwm; er
enghraifft, ail-enwyd prif raglen deledu pop Cymraeg, “Disc a Dawn”,
yn “Gwerin 74”.
Er
fod Mynediad am Ddim yn grŵp
newydd, roedd gan yr aelodau oll brofiad amrywiol o berfformio – bu
Emyr a Robin yn Eisteddfodwyr
profiadol am flynyddoedd a recordiodd Emyr record pan yn fachgen ifanc
iawn; roedd Graham a Dewi’n gyn-aelodau o Gerddorfa Ieuenctid Cymru ac
Iwan a Mei eisoes wedi ffurfio un grwp yn Aber – Coes Glec - ac wedi
dechrau cyfansoddi caneuon.
Dod
at eu gilydd o ran hwyl wnaeth y chwech yn wreiddiol – yn benodol ar
gyfer cynrychioli Aber yn yr Eisteddfod ryng-golegol oedd i’w chynnal
ym Mangor y flwyddyn honno. Cawson nhw lwyddiant yn fan’ny a doedd dim
troi nôl.
A hwyl oedd y nod wedi hynny hefyd – gan ddilyn traddodiad y Tebot
Piws a’r Dyniadon gyda chyfuniad o ganu gwerinol “ffwrdd-a-hi”
myfyrwyr Aber oedd yn cael ei ymarfer yn y “Marine” a’r
“Skinners” bob nos Sadwrn, a chaneuon gwreiddiol hwyliog (a fe
allai’r hwyl gynnwys gwisg “drag” a dangos pen-ôl
ar lwyfan). Roedd hyd yn oed yr enw yn jôc
– yn dilyn esiampl Ac
Eraill, ymgais i ddrysu cyhoeddwyr a darllenwyr posteri nosweithiau
llawen.
Aed
ati i gyfansoddi mwy o ganeuon gwreiddiol – gyda phob cyfuniad posib o
ddau neu dri aelod – ac ambell ffrind – yn bwrw iddi. Ond dyfodiad
aelod newydd mwy profiadol fyddai’n rhoi cyfeiriad i’r grwp.
|
COPA
“Dyn
ifanc ac unig fel fi” 1975-76
Ym
1975, wedi cyfnod yn y coleg ym Mangor, glaniodd Emyr Huws Jones yng
Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru yn Aberystwyth. Roedd hwn eisoes wedi profi
llwyddiant ysgubol gyda’r Tebot Piws, ac er nad oedd yn berfformiwr
naturiol, roedd ganddo ddawn cyfansoddi, fel y profodd caneuon fel “Yr
Hogyn Pren” a “Hylo Dymbo”. A’r Tebot wedi hen orffen, roedd
e’n dal i gyfansoddi – yn fwy toreithiog nag o’r blaen – ond heb
lwyfan i’w ganeuon. Roedd yr amseru’n berffaith felly. Cytunodd i
gyfrannu caneuon at Mynediad am Ddim ac i gryfhau’r cyfeiliant ar y
gitar a banjo.
Yn
fuan wedi i “Ems” ymuno a’r grŵp,
daeth cyfle i fynychu stiwdio recordio am y tro cynta i gyfrannu un gân
at record hir aml-gyfrannog er budd mudiad Adfer, sef Lleisiau
– ac un o ganeuon Ems gafodd ei dewis, sef “Padi”, y gynta o nifer yn son am ei gefndir yn Sir Fon.
Buan
iawn y creodd Mynediad am Ddim argraff ar lwyfannau Cymru a chafwyd
wythnos arbennig o lwyddiannus yn Eisteddfod Cricieth ym mis Awst. O
ganlyniad, daeth cyfle i recordio record hir i gwmni Sain –Mynediad
am Ddim neu “Wa McSbredar”
fel mae pawb yn ei galw hi ar ol un o ganeuon mwya poblogaidd y cyfnod.
14 o ganeuon amrywiol – y mwyafrif o’r cyfnod cyd-sgwennu, pedair gân
Ems a dwy gân
draddodiadol, un yn offerynnol a’r llall yn ddi-gyfeiliant.

Cafodd
Mynediad am Ddim dderbyniad gwresog
iawn ac yn ei sgil daeth mwy o wahoddiadau i berfformio’n fyw ac ar
deledu. Roedd cwmni Sain yn awyddus i recordio ail record hir cyn gynted
a phosib – a chododd y syniad o recordio’r grwp yn fyw o flaen
cynulleidfa. Aed ati i drefnu noson yn y “Pier” yn Aberystwyth, ond
– och a gwae – methiant fuodd yr ymgais i “ddal” asbri byw’r
grŵp
ar blastig: un gân
o’r noson welodd olau ddydd ar y record nesa.
Erbyn
1976, roedd ychydig o fynd a dod wedi digwydd: gadawodd Dewi “French
Horn” yn fuan ar ol recordio’r LP gynta a daeth gitarydd arall i
chwyddo’r rhengoedd wrth i Alun “Sbardun” Huws symud i weithio yn
Aberystwyth. Roedd hwn hefyd wedi bod yn aelod o’r Tebot Piws a wedi
hynny Ac Eraill, oedd newydd roi’r gorau iddi
a roedd cael cyfle i ymuno a grŵp
arall yn yr un traddodiad yn apelio’n fawr ato fe - ac yn gaffaeliad
pendant i Mynediad.

|
COPA
“Mhell i fwrdd ar
draws y mor” 1976-77
Mae’r
grŵp
yn talu
oedd teitl yr ail record
hir – cyfeiriad at y drefn o’r cychwyn fod enillion y grwp yn
sicrhau bwyd, diod a llety yn ol yr angen i bawb oedd yn cyfrannu at eu
llwyddiant. Eto, 14 o ganeuon, ond y tro hwn roedd mwy o gyfeiriad
pendant: ar wahan i ddwy gân,
roedd y cyfan naill ai o waith Ems neu’n ganeuon neu alawon
traddodiadol – cyfuniad sy’n dal yn sail i berfformiad y grwp hyd
heddiw.
Yn
fyw, roedd pethau’n mynd o nerth i nerth – a gorwelion yn ehangu. Yn
ogystal a theithio’n helaeth trwy Gymru, mentrodd y grwp i Iwerddon ym
1976 (gyda Ronw Protheroe’n cynorthwyo ar y gitar – un o nifer o
bobol fyddai’n llenwi bwlch dros y blynyddoedd). Ond roedd yna nifer o
newidiadau ar fin digwydd. Yn gynta, penderfynodd Ems gefnu’n
gyfangwbwl ar berfformio, rhywbeth nad oedd erioed wedi’i fwynhau. Yn
ffodus i’r grŵp,
parhaodd i gyfrannu caneuon, gan fynd ymlaen i’w sefydlu’i hun fel
un o gyfansoddwyr mwya poblogaidd y byd canu ysgafn Cymraeg -
a daeth aelod newydd i gymryd ei le ar lwyfan.
Erbyn
hyn, roedd aelodau Mynediad
am Ddim yn dechrau dilyn gyrfaoedd ledled Cymru ond Aber oedd canolfan y
grwp o hyd ac o rengoedd y myfyrwyr yno y cipiwyd
Peter Watcyn Jones. Roedd Pete wedi bod yn aelod o’r grŵp
Josgin yn Ysgol Rhydfelen ac yn gitarydd a mandolinydd profiadol.
Unwaith eto, amseru da.
|
|
Daeth
1977 â
mwy o newidiadau a chyfeiriad newydd; uchafbwyntiau’r flwyddyn oedd y
drydedd record hir a thaith i Lydaw. Enw’r record oedd Rhwng
saith stôl,
ac er nad oedd Ems yn bresennol, ei ganeuon e (“Cofio dy wyneb”,
“Yn y dre 1913”, “Hi yw fy ffrind” ac eraill) oedd
yr asgwrn cefn. Hefyd, cafwyd cyfraniadau geiriol gan Lyn
Ebeneser, Harri Webb a Myrddin ap Dafydd, alaw gan Meredydd Evans a dwy
gan offerynnol gwerinol eu
naws gan Pete.
 |
Dyma fyddai cyfraniad ola Sbardun i’r grŵp
– gadawodd ar ol y
recordiad i ganolbwyntio ar gyfeilio i Tecwyn Ifan am gyfnod cyn
tawelu’n gerddorol am flynyddoedd
Yn niwedd y 90au, daeth i’r amlwg eto fel cyfansoddwr i
gantorion fel Bryn Fon, John ac Alun, Linda Healy a Iona ac Andy. Mei oedd y
nesa i adael – i ddilyn gyrfa lwyddiannus iawn fel actor a
dramodydd – er y byddai’n perfformio’n achlysurol gyda
Mynediad am rai blynyddoedd. |
COPA
|
“Ffal di di ral dal dadl am do”
1978-79
Bellach,
pump aelod oedd ar ol – Emyr Wyn, Robin, Iwan, Graham a Pete – ac
erbyn i’r record weld golau ddydd, roedd y grŵp
wedi teithio Llydaw yng nghwmni Dafydd Iwan – profiad arbennig yn
bersonol a phroffesiynol, lle gwelwyd mwy o bwyslais ar yr ochor
werinol, gyda chanu di-gyfeiliant yn arbennig o boblogaidd o flaen
cynulleidfa Lydewig.
Yn sgil
profiadau Iwerddon a Llydaw, penderfynwyd canolbwyntio fwyfwy ar
ganu gwerin traddodiadol. Trefnwyd taith arall gyda Dafydd Iwan
– trwy Gymru y tro hwn – ac aed ati i recordio casgliad o
ganeuon gwerin, gan anelu at farchnadoedd Celtaidd a thu hwnt yn
ogystal a Chymru. |
 |
Y
canlyniad oedd cyhoeddi Torth o Fara
ym 1978 – 17 o ganeuon, gyda phwyslais cyfartal ar y lleisiol
a’r offerynnol – a’r clawr a’r nodiadau aml-ieithog yn cyhoeddi
delwedd newydd. Yn ei sgil, teithiodd y grŵp
i Lydaw eto (gyda Mei’n dychwelyd dros dro) dros yr haf a mwynhau
llwyddiant pellach yno. Dyma’r agosaf fuodd Mynediad am Ddim i
droi’n grŵp
proffesiynol llawn-amser; trafodwyd y posibiliadau, ond ddigwyddodd e
ddim. Petai? Petase? Pwy a wyr?
Ar ddiwedd y flwyddyn,
symudodd Pete – yr unig un ar ol yn y coleg - i Ffrainc am rai misoedd
fel rhan o’i gwrs, felly roedd angen eilydd yn ystod ei absenoldeb. Yn
Aberystwyth y cafwyd hyd i’r ateb unwaith eto – roedd Geraint Davies
yn gweithio yno, newydd
orffen cyfnod hir gyda’r grŵp Hergest ,
wedi rhannu llwyfan gyda Mynediad droeon a wedi llenwi bwlch iddyn nhw
yn achlysurol cyn hyn. Daeth yntau â thinc o ganu
roc/gwlad i swn Mynediad am Ddim
 |
O fewn
misoedd, ym mis Mehefin 1979, dychwelodd y grŵp
i Lydaw (eto gyda Mei
yn ei ôl),
ond y tro hwn am ddiwrnod yn unig! Yn sgil llwyddiant teithiau
’77 a ’78, derbyniwyd gwahoddiad i Wyl yn Guipavas, ger
Brest, lle’r oedd y trefnwyr mor awyddus i gael Mynediad am
Ddim, llogwyd awyren fechan o Gaerdydd er mwyn hwyluso pethau
– gadael am hanner dydd ar y Sadwrn, canu nos Sadwrn, nol i
Gaerdydd erbyn amser cinio ddydd Sul. |
Yn
ystod yr un cyfnod, recordiwyd y gynta o ddwy gaset i’r Mudiad
Ysgolion Meithrin – casgliad o hwiangerddi a chaneuon eraill i blant
bach o’r enw Hwyl wrth ganu
(dilynodd ail gaset Hwyl yr Wyl, sef
casgliad tebyg, y tro hwn ar thema’r Nadolig, ym 1986).
|
COPA
“Ac mae ci yn rhywle’n cyfarth ar
y lloer” 1979-82
Ond
dyddiau digon di-gyfeiriad ac ansicr oedd y rhain – dychwelodd Pete yn
ol o Ffrainc ac os na ofynwyd i Geraint aros, wnaeth neb ofyn iddo fe
fynd chwaith – mae’r eilydd yn dal ar y cae. Tro Graham oedd hi nesa
i grwydro o’r nyth – gadawodd ei swydd fel athro i ymuno
â’r grŵp
gwerin Ar Log a gwireddu’r freuddwyd o droi’n gerddor llawn-amser.
Roedd e bellach yn aelod o ddau grŵp,
ac, er fod y galwadau i Mynediad
berfformio’n dod yn gyson, roedd hyn, a’r ffaith fod y lleill ar chwâl yn ddaearyddol trwy Gymru’n gwneud dod at ei gilydd yn anos.
Ym
1980, recordiwyd pedair o ganeuon traddodiadol eu naws ar gyfer casgliad
aml-gyfrannog Dewch i Ganu i gwmni Sain ond. er fod yna
sawl cynnig, doedd yna ddim ysfa i gynhyrchu record hir newydd.
Perfformiadau byw oedd yn cael y flaenoriaeth bellach, ac er nad oedd y
rhain mor niferus ag yn y gorffennol, arafu am gyfnod wnaeth pethau yn
hytrach na dod i stop.
|
Erbyn hyn,
roedd rhai o’r aelodau eraill yn perfformio gydag ail grwpiau
hefyd – Geraint gyda’i grŵp
roc ysgafn Y Newyddion am rhyw flwyddyn ac Iwan gyda’r grwpiau
gwerin Cilmeri ac yna Pedwar yn y Bar. A gadael Mynediad fuodd
hanes Iwan - i ganolbwyntio ar Pedwar yn y Bar; y tro nesa iddo
fe berfformio gyda’r bois fyddai yn Eisteddfod Genedlaethol
Mon 1999 mewn noson deyrnged i Ems.
|
Yn
ei le, ym 1982, gwahoddwyd Rhys Dyrfal Ifans i ddod
â
dimensiwn newydd
i’r grŵp – gitarydd a chanwr bâs yw Rhys gyda blynyddoedd o brofiad
mewn grwpiau fel Josgin (gyda Pete), Hergest (gyda Geraint) a Bando.
Tua’r un adeg, daeth diwedd cyfnod Ar Log fel band llawn-amser gan roi
cyfle i Graham wneud
cyfiawnder â phawb - a dyma
gychwyn ar gyfnod o sefydlogrwydd i’r grwp sydd wedi para hyd heddiw.
|
COPA
“Dwi ddim yn cerdded mor syth, dyw
‘ngwallt i ‘mor hir” 1982-??
Y
chwe aelod hyn – Emyr Wyn, Robin, Graham. Pete. Geraint a Rhys –
sydd wedi cadw fflam Mynediad am Ddim yn fyw am yr ugain mlynedd dwetha,
a hynny trwy berfformio’n gyson ledled Cymru. Yn niwedd y 90au,
ychwanegwyd Delwyn Sion (ffoadur arall o Hergest) fel aelod achlysurol a
chyfranodd yntau a Geraint ganeuon newydd i’r pair.
Ym
1992, i ddathlu penblwydd yn 18 oed, â’r Eisteddfod Genedlaethol yn
Aberystwyth, man geni’r grwp, cyhoeddwyd casgliad o’r caneuon mwya
poblogaidd, rhai wedi’u hail-recordio, ac ambell gân newydd, ar y CD Mynediad
am Ddim 1974-1992, ynghyd â
llyfr lloffion Digon Hen i
Yfed yn olrhain hanes y grŵp. Yna ym 1993, cyhoeddwyd
tâp fideo
o berfformiad byw o flaen cynulleidfa yn stiwdio Barcud, Caernarfon, Dyma
Mynediad am Ddim
Yn
ystod yr wythdegau hwyr a’r nawdegau, aeth y llwyfannau’n fwy
rhywsut, gyda thŵf gwyliau gwerin trwy Gymru; mae’r uchafbwyntiau’n
cynnwys perfformio yng Ngwyl y Cnapan bum gwaith gan rannu llwyfan gydag
arwyr fel Davy Spillane a’r Dubliners ac yn 2003, derbyniwyd
gwahoddiad gan Bryn Terfel i ymddangos gerbron tua wyth mil o bobol yng
Ngwyl y Faenol..
|
 |
**************
2004
oedd penblwydd Mynediad am Ddim yn 30 oed, gyda chrysau T, capiau a’r
wefan hon i gofnodi’r achlysur – a mae’r hwyl yn parhau.
“Rwy’n mynd yn hen…….Ac rwyf finnau’n gallach”? Go brin.
COPA |
|